24.02.2023 |
Llongyfarchidau i enillwyr ein Gwobrau Allysgol!
Hoffem longyfarch yn fawr Dylan’s Den a enillodd y Wobr, ‘Clwb Allysgol y Flwyddyn’ a’r wobr am ‘Gefnogi Llesiant Staff’ yn ein Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Allysgol yn Chwefror 2023. A da iawn i’n holl enillwyr.
“Mae’r gwasanaeth gofal plant a gynigir gan Dylan’s Den heb ei ail. Mae’r staff yn gynnes a chyfeillgar, ac fe gawson nhw gymaint o hwyl gyda’m un fach i pan aeth i’r clwb gwyliau yno. Cynigir digonedd o weithgareddau a ohwarae awyr-agored ; ac mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn bwyta’n iach hefyd. Fe gafodd hi gymaint o hwyl yno, yn chwarae, dawnsio a gwneud smwddis, doedd hi ddim eisiau dod adre!”
“Mae’r rheolwyr yn Dylan’s Den mor gefnogol a deallgar, y cyflogwyr gorau i mi erioed weithio iddyn nhw. Mae Nia a Gina ar ben arall y ffôn ar unrhyw adeg, nid yn unig i helpu gyda materion gwaith, mae’n nhw’n ein cefnogi mewn materion bob dydd hefyd. Yn ystod Covid, roeddem ni nid yn unig i ffwrdd o’r gwaith ar gyflog llawn; fe gawsom ein talu hefyd i fynd ar gyrsiau i ddatblygu ein hunain a’n harferion. Cyn cyhnoeddi Saib Swydd roedden nhw eisoes wedi cyhoeddi y byddai’r staff i ffwrdd o’r gwaith ar gyflog llawn. Maen nhw wir yn gofalu am eu staff ac yn gofalu am ein llesiant drwy gyfarfodydd rheolaidd a hefyd cronfa lesiant sy’n cael ei defnyddio i brynu pethau neis i ni. ☺️. Mae hyn yn hwb gwirioneddol i forâl y staff.”