08.09.2023 |
Enillydd y Wobr Gofalu trwy’r Gymraeg
Cafodd Ross Dingle, rheolwr ac arweinydd chwarae yng Nghlwb Carco Cyf. yng Nghaerdydd, wedi ei enwi’n enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg mewn digwyddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.
Enwebwyd Ross gan Jane O’Toole, ein Prif Swyddog Gweithredol yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, am ei waith yn datblygu ansawdd chwarae ac ethos Cwb Carco, sy’n rhedeg saith clwb gofal plant cyfrwng-Cymraeg, all-ysgol yn ne Cymru.