27.01.2023 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
__________________________
Ymddiriedolaeth Charles Plater
Mae Ymddiriedolaeth Charles Plater yn rhoi grantiau i rychwant eang o sefydiadau crefyddol ac anghrefyddol.
Mynnwch wybod mwy yma.
__________________________
Elusen y Fonesig Neville
Mae Elusen y Fonesig Neville yn rhoi grantiau cyfalaf i brosiectau Celf a Threftadaeth (ledled y DU)
Dyddiad cau 24/02/2023
Mynnwch wybod mwy yma.
__________________________
BBC Plant mewn Angen – Ffrwd Ariannu Grantiau Prosiect
Mae’r Ffrwd Ariannu Grantiau Prosiect yn cefnogi amcanion a chyflenwad darn penodol o waith gyda phlant a phobl ifanc o dan anfantais (hyd at 18 mlwydd oed). Bydd gan y gwaith hwn fel arfer derfyn amser a bydd wedi ei seilio ar set benodol o weithgareddau. Mynnwch wybod mwy yma.