Crefft yr Hydref: Printiau Pwmpen ag Afalau wedi’u torri’n hanner

Dewch ag ysbryd yr hydref i’ch clwb drwy weithgaredd print- pwmpen syml a hwyliog yma, sy’n berffaith i bob oedran!

Y Defnyddiau sydd Angen:

Afalau (wedi torri’n hanner)

Paent oren

Paent gwyrdd, pensiliau neu feiros (ar gyfer creu coesau)

Brwshis paent

Hambyrddau paent

Papur gwyn neu liw

Marciwr du (dewisol ar gyfer creu wynebau)

Cyfarwyddiadau:

Paratowch yr afalau:

Dechreuwch trwy dorri afalau yn eu hanner, gan greu arwyneb gwastad ar gyfer argraffu. Bydd yr ochr wastad yn cael ei ddefnyddio i stampio’r paent.

Rhoi’r paen ar waith:

Tywalltwch baent oren ar blât papur neu hambwrdd paent. Defnyddiwch blât arall ar gyfer paent gwyrdd. Y rhain fydd eich corff pwmpen a’ch coesynnau.

Stampiwch y Pwmpenni:

Rhowch ochr fflat yr afal yn y paent oren, gan wneud yn siŵr bod yr wyneb cyfan wedi’i orchuddio. Yna, gwasgwch yr afal yn gadarn ar y papur i greu siâp “pwmpen”. Ailadroddwch cymaint o weithiau ag yr hoffech i lenwi’r papur â phrintiau pwmpen.

Ychwanegu coesau:

Defnyddiwch frwsh paent bach i beintio coesynnau gwyrdd ar ben uchaf pob print pwmpen. Gallwch hefyd ychwanegu ychydig o ddail gwyrdd os dymunir.

Wynebau Dewisol:

Unwaith y bydd y paent wedi sychu, defnyddiwch farciwr du i dynnu llun wynebau bwganllyd neu ddoniol ar eich pwmpenni i’w troi’n lanterni jac-o’-!

Gadewch i Sychu:

Rhowch eich gwaith celf i’r ochr i sychu’n llwyr. Yna, arddangoswch eich printiau pwmpen hwyliog o amgylch eich clwb!