27.11.2026 |
Creu Calendr Adfent Antur
24 diwrnod o hwyl ac annisgwyliadau!
Yr wythnos hon, gwahoddwch blant i greu eu Calendr Adfent Antur eu hunain, yn llawn heriau chwareus, jôcs, lluniau ac annisgwyliadau!
Gan ddefnyddio cardbord, amlenni, papur neu ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, anogwch blant i ddylunio calendr gyda 24 o ddrysau neu bocedi wedi’u rhifo.
Gadewch i’r plant benderfynu beth i’w guddio y tu ôl i bob drws! Gallai syniadau gynnwys:
- Her: Neidio fel broga, adeiladu’r tŵr talaf neu ddyfeisio gêm newydd.
- Jôc neu bos: Ysgrifennu jôc ddoniol i bawb ei mwynhau.
- Llun: Tynnu llun o rywbeth gwirion, dirgel neu Nadoligaidd.
- Antur: Archwilio’r awyr agored, chwilio am siapiau diddorol neu greu map trysor.
- Gweithred o garedigrwydd: Gwneud rhywbeth caredig i wneud i rywun wenu.
- Syrpreis: Creu cenhadaeth gyfrinachol neu syniad ar gyfer chwarae dychmygus.
Gallai plant greu calendrau unigol neu gydweithio i greu un calendr enfawr i’r clwb, gan agor drws newydd bob dydd i ddarganfod beth mae eu ffrindiau wedi’i greu!
Mae’r gweithgaredd hwn yn annog creadigrwydd a chyfranogiad plant. Drwy ganiatáu i blant ddewis beth sy’n mynd y tu ôl i bob drws, maent yn cymryd perchnogaeth o’u profiadau chwarae ac yn cyfrannu at weithgareddau’r clwb.