Mae gennym angerdd a rannwn. Er mor fychan a ymddangoswn, mae’r teimlad ein bod ‘i fod’ yn y sector Gofal Plant Allysgol wedi ei angori ynom.
Mae’n destun balchder i ni ein bod ni, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, bob tro un cam ar y blaen – bob tro’n barod, ac eisoes yno gyda’n cefnogaeth a’n harweiniad.
Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cgrŵp amrywiol o bobl sy’n cynrychioli’r gyfundrefn ar lefelau lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol. Y Bwrdd Ymddiriedolwyr yw corff llywodraethol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Yn ogystal â mynychu cyfarfodydd rheolaidd mae’r Ymddiriedolwyr yn ymrwymo i ddatblygu eu sgiliau gan fynychu sesiynau a chynadleddau i gyfoethogi eu gwybodaeth ymhellach.
Y Bwrdd Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am sicrhau llwybr strategol yr elusen gan sicrhau arweinyddiaeth a phenderfyniadau clir ar bob lefel,a chan fonitro perfformiad ariannol er mwyn diogleu gwerth am arian
Ymunwch â’n bwrdd ymddiriedolwyr heddiw.
Cysylltwch â ni i ymuno
Menter Cwm Gwendraeth Elli, Carmarthenshire
Alaw yw Prif Swyddog Menter Cwm Gwendraeth Elli. Mae ganddi brofiad helaeth mewn rheoli clybiau r’ôl ysgol gofrestredig ac anghofrestredig, gan gynnwys cynlluniau chwarae. Mae’n angerddol am yr Iaith Gymraeg, ac mae hi’n ymrwymedig i sicrhau bod plant yn gallu chwarae yn yr iaith o’u dewis, tra hefyd yn dathlu’r diwylliant fel rhan annatod o’r sesiynau chwarae.
Ynghyd â rheoli The Lil Rascals, mae Craig hefyd yn gweithio fel Arweinydd Busnes Ysgol, gan ddod â dealltwriaeth gadarn o lywodraethu, cyllid a chydymffurfiad i’r sector gofal plant. Mae’n angerddol am ehangu gofal plant hygyrch, gan gefnogi teuluoedd sy’n gweithio a datblygu darpariaeth gynaliadwy sy’n diwallu anghenion lleol yn wirioneddol.
Mae Debbie wedi gweithio mewn ysgol arbennig am 20 mlynedd, yn gyntaf fel cynorthwyydd dysgu a bellach fel cwnselydd i’r teuluoedd. Agorodd glwb ôl-ysgol 12 mlynedd yn ôl ac mae’n cynnal cynlluniau chwarae drwy’r flwyddyn i blant ag anghenion ychwanegol a meddygol mawr.
Mae Debbie’n angerddol ynghylch creu’r cyfleoedd a’r gefnogaeth orau y gall i blant a theuluoedd fel y gallant fwynhau bywyd.
Mae Dylan yn dod a phrofiad helaeth gan weithio ag ysgolion, cymunedau a lleoliadau r’ôl ysgol ar hyd a lled Gogledd Cymru. Fel Cyfarwydd CELS, sef Charter Education & Life Skills a Chadeirydd i Cymuned CELS Community CIC, mae’n arwain ystod o brosiectau lles, ymgysylltu ieuenctid, a datblygu’r gymuned sy’n cefnogi plant, pobl ifanc, a’r gweithlu o’u cwmpas.
Mae Heln Hughes yn Brif Swyddog Ymroddedig i Stephens and George Centenary Charitable Trust, lle mae hi’n arwain ar raglenni cymunedol trawsnewidiol ledled Merthyr Tudful a thu hwnt. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar rymuso plant, teuluoedd a grwpiau agored i niwed drwy addysg, lles ac ymgysylltiad creadigol.
Mae Leanne yn Bennaeth Gwasanaeth Datblygu yn Mudiad Meithrin, ac mae hi wedi gweithio ym maes datblygiad cymunedol am hyd at 30 mlynedd. Mae Leanne â gwybodaeth helaeth o’r sector Gofal Plant a Chwarae, gan weithio’n strategol ar lefel genedlaethol a datblygu cyfleoedd gofal plant a chwarae trwy’r cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Mae hi’n angerddol am sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bob cymuned, a bod yr Iaith Gymraeg yn hygyrch ac yn berthnasol i bob teulu.
Clwb Gogerddan, Ceredigion