Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Mae’r ffenest i wneud cais am rant gan The Ashley Foundation yn bellach ar agor.

Mae Sefydliad Teulu Ashley (Sefydliad Laura Ashley gynt) yn elusen gofrestredig yn y DU a sefydlwyd gan Syr Bernad Ashley a’i wraig Laura Ashley yn dilyn llwyddiant brand Laura Ashley. Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn falch o weithio gyda Sefydliad Teulu Ashley i ddyrannu ei gyllid yng Nghymru.

Ethos Sefydliad Teulu Ashley yw atgyfnerthu cymunedau gwledig yn bennaf, o ran yr agweddau cymdeithas ac amgylcheddol yn ogystal â rhoi yn ôl i’r cymunedau a oedd wedi helpu’r teulu i ddatblygu’r cwmni yn llwyddiant rhyngwladol.

Mae Sefydliad Teulu Ashley yn arbennig o awyddus i ariannu gwaith yn ardaloedd gwledig Canolbarth Cymru, sef ble y cafodd cwmni ‘Laura Ashley’ effaith sylweddol ar yr economi leol a llesiant cymdeithasol ei phobl, gyda mwy o gyfleoedd cyflogaeth ac ysbryd tîm gwerthfawr y gweithlu.

Yn ogystal â hyn, mae Sefydliad Teulu Ashley yn awyddus i gael ceisiadau gan brosiectau celfyddydau a chymunedol bach yng Nghymru ac yn croesawu cynigion gan amgueddfeydd/sefydliadau cymunedol.

Y grantiau sydd ar gael

Gall sefydliadau wneud cais am grantiau rhwng £500 a £10,000

Pwy all wneud cais?

Elusennau, sefydliadau a grwpiau cymunedol anghorfforedig sydd â chyfansoddiad neu gylch gorchwyl a diben elusennol. Dyrennir cyllid i brosiectau ar sail budd a gwerth a chaiff pob prosiect ei ystyried yn unigol.

Sut i wneud cais?

  • Dylid gwneud ceisiadau yn uniongyrchol drwy wefan Sefydliad Teulu Ashley.
  • Maent yn ffafrio ceisiadau gan sefydliadau sydd ag incwm llai na £2m.
  • Maent yn ariannu ceisiadau hyd at £10, 000 ac yn adlewyrechu o leiaf 10% y cost o’r priosect oferôl.

Noder os gwelwch yn dda, nad yw Sefydliad Teulu Ashley yn ariannu’r canlynol:

  • Unigolion
  • Mentrau busnes
  • Prosiectau tramor
  • Prosiectau ym maes crefydd
  • Cyllid uniongyrchol i ysgolion
  • Cyllid ôl-weithredol ar gyfer gweithgareddau sydd eisoes wedi digwydd.
  • Prosiectau sy’n canolbwyntio ar chwaraeon
  • Achosion a gefnogir yn dda (fel ymchwil canser a lles anifeiliaid)
  • Cyllid uniongyrchol i hosbisau
  • Prosiectau cyfalaf
  • Gweithio gyda chymunedau y tu allan i Gymru
  • Triniaethau meddygol
  • Ad-dalu dyledion