05.06.2026 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
The Armed Forces Covenant Fund Trust
Bydd The Armed Forces Covenant Fund Trust yn dyfarnu grantiau rhwng £5,000 a £80,000 ar ran rhaglen Blynyddoedd Cynnar Cronfa Teuluoedd y Lluoedd Arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD).
Mae grantiau ar gael i wella darpariaeth i blant 0-5 oed o deuluoedd y lluoedd arfog. Gall prosiectau gynnwys cynyddu nifer y lleoedd, gwella amgylcheddau, neu hyfforddi staff.
Dyddiad cau: 15 Gorffennaf 2026 (canol dydd)
Am ragor o wybodaeth a sut i wneud cais: AF3: Early Years programme – Armed Forces Covenant Fund Trust
Cysylltwch â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs am gymorth gyda cheisiadau grant ar gyfer eich clwb: info@clybiauplantcymru.org