21.11.2025 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Morrisons Foundation
Mae Morrisons Foundation yn cefnogi elusennau cofrestredig sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cymunedau lleol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae grantiau ar gael hyd at £10,000 ar gyfer gwariant cyfalaf neu gyflawni prosiectau’n uniongyrchol. Mae Morrisons Foundation yn blaenoriaethu ceisiadau gan elusennau bach, y rhai sydd ag incwm sy’n llai na £1m, ond mae croeso i geisiadau gan elusennau mwy. Cyn cyflwyno’ch cais, darllenwch eu Polisi Ariannu Grantiau yn llawn. Sylwch, unwaith y bydd cais ar-lein wedi cychwyn, rhaid ei gwblhau, nid oes dull o gadw eich cais hanner ffordd drwodd.
https://www.morrisonsfoundation.com/grant-funding-request/
https://www.morrisonsfoundation.com/grant-funding-request/grant-funding-policy/.