23.10.2026 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Grant Cynaliadwyedd 2026–27
Gall Clybiau Gofal Plant All-Ysgol cofrestredig AGC cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wneud cais am grantiau o hyd at £2,000.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs drwy brosiect CYMell, mae’r grant yn cefnogi gofal plant cynaliadwy o ansawdd uchel i blant 3 i 14 oed. Rhoddir blaenoriaeth i glybiau gwirfoddol, dielw ac i glybiau sy’n diwallu anghenion gofal plant yr awdurdod lleol.
Ystyrir ceisiadau’n fisol ar sail dreigl nes bod yr holl gyllid wedi’i ddyrannu. Ni ellir dyfarnu cyllid yn ôl-weithredol na’i ddefnyddio i gynnal elw.
Diddordeb? Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant i drafod eich cais.