Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Mae Yapp Charitable Trust yn darparu cyllid grant i sefydliadau elusennol bach ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Mae’n darparu grantiau i elusennau cofrestredig gyda chyfanswm gwariant blynyddol o lai na £40,000 yn unig. Maent yn ariannu gwaith sy’n canolbwyntio’n benodol ar un o’u grwpiau blaenoriaeth ar gyfer costau rhedeg yn unig. Fel arfer, uchafswm o £3,000 y flwyddyn yw’r grantiau a byddant yn ariannu am hyd at dair blynedd. Mae’r rhan fwyaf o grantiau am fwy nag un flwyddyn gan eu bod yn hoffi ariannu anghenion parhaus yr elusen. Darganfyddwch a yw eich sefydliad yn gymwys i wneud cais drwy wefan The Yapp Charitable Trust.

Gallwch hefyd gysylltu â Chlybiau Plant Cymru, Swyddogion Datblygu Busnes Gofal Plant i gael cymorth gyda cheisiadau am grant.

Darllen mwy