Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Grant Cyllid Ymddiriedolaeth Pobl  

Gwneud gwahaniaeth i gymunedau yng Nghymru 

Mae ein helusen gofrestredig, Ymddiriedolaeth Pobl, wedi ymrwymo i godi arian a dyrannu grantiau i unigolion, grwpiau cymunedol a phrosiectau i wella ansawdd bywyd a chreu cyfleoedd i bobl a chymunedau yn yr ardaloedd lle mae Grŵp Pobl yn gweithio. 

Ein Thêmau Cyllid 

Bob blwyddyn mae ein Hymddiriedolwyr Pobl a’n Cydweithwyr Grŵp yn cytuno ar themâu y gellir cyflwyno ceisiadau grant ar eu cyfer o bob rhan o gymunedau yng Nghymru: 

Ein themâu cyllid cyfredol yw: 

  • Cysylltu Cymunedau
  • Iechyd Corfforol a Meddyliol
  • Diogelu’r amgylchedd a lles dynol
  • Byw’n Effeithlon

 

Pobl Trust – Pobl