
02.10.2025 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Arian i Bawb Cymru
Mae cynllun Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn cynnig cyllid o rhwng £300 a £20,000 i gefnogi’r hyn sy’n bwysig i bobl a chymunedau.
Gallwch wneud cais am gyllid i gyflwyno gweithgarwch newydd neu weithgarwch presennol neu i gefnogi eich sefydliad i newid ac addasu i heriau newydd a heriau’r dyfodol.
Gall cynllun Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ariannu prosiectau a fydd yn gwneud o leiaf un o’r pethau yma:
- dod â phobl ynghyd i feithrin cysylltiadau cryf mewn cymunedau ac ar draws cymunedau
- gwella’r llefydd a’r gofodau sy’n bwysig i gymunedau
- helpu mwy o bobl i gyrraedd eu potensial, drwy eu cefnogi ar y cam cynharaf posibl
- cefnogi pobl, cymunedau a sefydliadau sy’n wynebu mwy o alw a heriau oherwydd yr argyfwng costau byw.
Gallwch wneud cais os yw eich sefydliad:
- yn fudiad gwirfoddol neu gymunedol
- yn elusen gofrestredig
- yn grŵp neu’n glwb cyfansoddiadol
- yn gwmni nid-er-elw neu’n Gwmni Buddiant Cymunedol
- yn fenter gymdeithasol
- yn ysgol
- yn gorff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymuned)