Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol

Cynllun grant cyfalaf yw hwn a weithredir gan Llywodraeth Cymru, mae grantiau ar gael ar ddwy lefel; grantiau bach o dan £25,000 a grantiau mawr hyd at £300,000.

Ffocws y Rhaglen yw cynyddu cyfleoedd, creu ffyniant i bawb a datblygu cymunedau gwydn lle mae pobl yn ymgysylltu ac yn cael eu grymuso. Disgwylir i bob ymgeisydd weithio gyda phartneriaid a all ddod o’r sector cyhoeddus, preifat neu’r trydydd sector.