24.10.2025 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
A yw eich clwb yn elusen, yn Sefydliad Elusennol Corfforedig (CIO) neu’n Gwmni Buddiant Cymunedol (CIC)? Mae grantiau rhwng £500 a £2,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd ar gael i sefydliadau y mae eu ceisiadau’n cyflawni orau yn erbyn y canlyniadau. Mae’r gronfa hon bellach ar agor. Y dyddiad cau yw dydd Llun 9 Mawrth 2026.
Rhaid i’ch clwb fodloni’r meini prawf cyn gwneud cais, gweler y ddolen wefan.