06.12.2024 |
CYMell – Hyfforddiant gwaith chwarae a bwrsariaeth
Mae hyfforddiant mewn Gwaith Chwarae wedi’i ariannu’n llawn ar gael gennym, ynghyd â bwrsariaeth o £300 a fydd yn eich cefnogi pan fyddwch yn dangos ymrwymiad i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Bydd y fwrsariaeth yn cefnogi lleoliadau i dalu costau aelodau staff sy’n mynychu’r hyfforddiant a ariennir trwy brosiect CYMell. Bydd yn cael ei dalu i’r lleoliad i gyfrannu’n uniongyrchol at staff i fynychu hyfforddiant (neu ennill cymwysterau) y tu allan i’w horiau gwaith neu i dalu am staff i gyflenwi’r aelod hwnnw o staff os yw hyn o fewn oriau gwaith.
Dyfarniad Cwrs Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae CYMell – 02/02/2025-09/04/2025 Ar-lein