Cymerwch ran!
Mae sawl ffordd y gallwch fod yn rhan o Ofal Plant Allysgol yng Nghymru, a chefnogi gwaith Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Mae sawl ffordd y gallwch fod yn rhan o Ofal Plant Allysgol yng Nghymru, a chefnogi gwaith Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn grŵp amrywiol o bobl sy’n cynrychioli’r gyfundrefn yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Y Bwrdd Ymddiriedolwyr yw corff llywodraethol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Yn ogystal â mynychu cyfarfodydd rheolaidd mae’r Ymddiriedolwyr yn gweithio i ddatblygu eu sgiliau, ac yn aml yn mynychu sesiynau a chynadleddau perthnasol a allai helpu i gyfoethogi eu gwybodaeth.
Y Bwrdd Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am sicrhau cyfeiriad strategol yr elusen gan sicrhau arweinyddiaeth a phenderfyniadau clir ar bob lefel, a chan fonitro perfformiad ariannol er mwyn rhoi gwerth am arian.
Ymunwch â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr Heddiw
Cysylltwch â ni i ymunoYn elusen gofrestredig, dibynnwn ar ariannu trwy grantiau a rhoddion i gefnogi ein gwaith craidd a rhoi cyfleoedd cyfartal i blant ledled Cymru.
Cawn ein hariannu o amrywiaeth eang o ffynonellau, yn cynnwys Llywodraeth Cymru (drwy’r Grant Cyflenwi Plant a Theuluoedd) ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Rydym hefyd yn cael ein hariannu o ffynonellau amrywiol i gyflenwi prosiectau a hyfforddiant.
Hoffem ddiolch i’n holl arianwyr sy’n cyfrannu at Ofal Plant All-Ysgol yng Nghymru, gan roi i rieni/gofalwyr y cyfle i barhau i weithio / dychwelyd i fyd gwaith a/neu hyfforddiant, yn dawel eu meddwl fod eu plant yn cael gofal mewn amgylchedd diogel ac ysgogol, gan staff cymwysedig.
Gallwch chi helpu! Gwerthfawrogwn roddion o unrhyw faint at unrhyw bwrpas. Cyfrannwch yma.
Ariannu/RhoddionRydym yn hysbysebu pob un o’n swyddi gwag ar y wefan. Cliciwch yma am fanylion y swyddi gwag presennol
Bwrdd SwyddiGall clybiau gofal plant fod yn brofiad llawn hwyl, a chyfoethogol, i blant. Maent hefyd yn darparu gwasanaeth hanfodol i rieni drwy eu galluogi i fynd allan i weithio neu wirfoddoli gan wybod bod eu plentyn yn cael gofal da. Gall gwirfoddoli mewn clwb ôl-ysgol fod yn brofiad arbennig i chi hefyd. Byddwch nid yn unig yn cael y boddhad o roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned leol, ond hefyd yn cyfarfod ag unigolion o’r un anian sy’n llawn angerdd dros helpu plant i gyrraedd eu potensial llawn drwy chwarae.
Cysylltwch â ni i ymuno