Cymerwch ran yn y Sgwrs Genedlaethol: Y Genhedlaeth Nesaf

Mae plant a phobl ifanc ledled y DU (o dan 16 oed) yn cael eu gwahodd i ymuno â’r Sgwrs Genedlaethol er mwyn sicrhau bod lleisiau’r genhedlaeth nesaf yn cael eu clywed ynghylch yr hyn sy’n dod â phobl ynghyd, yr hyn sy’n ein rhannu, ble maent yn teimlo eu bod yn perthyn, a beth allai wneud eu cymunedau’n gryfach.

Gall ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid a sefydliadau cymunedol gymryd rhan drwy gynnal sgyrsiau gan ddefnyddio ein pecyn cymorth a’n hadnoddau rhad ac am ddim.