Cynhadledd ansawdd gofal plant a chwarae AGC 2025

  • 25 Tachwedd (7.00pm – 8.30pm), a
  • 2 Rhagfyr (6:00pm – 7:30pm).

Mae’r gynhadledd hon wedi’i dylunio’n benodol ar gyfer darparwyr gofal plant a chwarae, a bydd yn canolbwyntio ar ansawdd gwasanaethau a’r cymorth pwysicaf i’ch lleoliad a’r plant yn eich gofal.

Beth i’w ddisgwyl

  • Ymarfer cadarnhaol o bob rhan o’r sector – Cyfle i glywed gan ddarparwyr ac arolygwyr
  • Diweddariadau i’r fframwaith arolygu – Cyfle i glywed rhagor am yr adolygiad diweddaraf o’r fframwaith arolygu
  • Profiadau darparwyr – Sesiynau holi ac ateb â darparwyr
  • Diweddariadau i bolisïau – Gwybodaeth am adolygiad Llywodraeth Cymru o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol
  • Adborth o gyfarfodydd ansawdd – Yr hyn rydym yn ei ddysgu o gyfarfodydd ansawdd a sut mae hyn yn llywio ein cymorth
  • Mae eich llais yn bwysig – Byddwn yn cynnwys arolwg bach er mwyn gofyn pa gymorth sydd ei angen ar y sector, felly byddwch yn barod i rannu eich barn a’ch profiadau.

Sut i ymuno

  • I ymuno â’r gynhadledd ar 25 Tachwedd (7.00pm tan 8.30pm) – cliciwch yma
  • I ymuno â’r gynhadledd ar 2 Rhagfyr (6.00pm tan 7.30pm) – cliciwch yma

Gwybodaeth bwysig i’w darllen cyn y digwyddiad

Caiff y ddau ddigwyddiad eu cynnal drwy Microsoft Teams. Er mwyn i chi ymuno â’r digwyddiad yn hawdd, rydym yn awgrymu y dylech ymuno ar liniadur neu gyfrifiadur gan ddefnyddio’r ap Microsoft Teams.

Caiff rhai elfennau o’r digwyddiadau eu cyflwyno yn Gymraeg a bydd cyfleuster cyfieithu ar y pryd ar gael i ddarparwyr nad ydynt yn siarad / deall Cymraeg.

Cofnodi digwyddiadau

Bydd y digwyddiadau’n cael eu recordio a’u rhannu trwy sianel YouTube, cylchlythyrau a gwefan AGC. Os yw’n well gennych beidio â chael eich recordio, cadwch eich camera i ffwrdd.
Am fanylion pellach ar sut mae AGC yn trin eich data, gweler ei hysbysiad preifatrwydd.