27.03.2026 |
Datganiad Ysgrifenedig Adolygiad Cyfradd y Cynnig Gofal Plant
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw yn dilyn canlyniad yr adolygiad o’r gyfradd a delir i leoliadau gofal plant sy’n darparu Cynnig Gofal Plant Cymru.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd y gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr gofal plant sy’n rhan o’r Cynnig yn £6.67 yr awr.
Bu cynnydd o 4.18% hefyd yn y ffioedd bwyd, y gall lleoliadau gofal plant eu codi ar rieni sy’n defnyddio’r Cynnig yn eu lleoliad.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid ychwanegol i wella’r elfen Addysg Feithrin o’r Cynnig Gofal Plant Cymru a chodi’r elfen gofal plant o Dechrau’n Deg.
Yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
25/03/26