18.10.2024 |
Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i Ymddiriedolwyr
Mae’r sector Gofal Plant All-Ysgol yn cynnwys llawer o strwythurau cyfreithiol gwahanol megis darparwyr preifat, pwyllgorau a reolir yn wirfoddol, a redir gan ysgolion neu awdurdodau lleol.
Mewn rhai achosion mae’r rhai sy’n goruchwylio’r busnes hefyd yn gweithio yn y busnes o ddydd i ddydd gyda’r plant; nid yw hyn fodd bynnag yn wir yn achos llawer o bwyllgorau a reolir yn wirfoddol.
Gellir gofyn i unrhyw ymddiriedolwr/aelod pwyllgor wneud cais am wiriad y GDG ac os ydych wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau rhaid i chi gael gwiriad y GDG.
I fod yn gymwys am wiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd mae’n rhaid i chi wneud gwaith sy’n dod o fewn y diffiniad cyfreithiol o weithgarwch rheoledig gyda phlant neu, yn achos ymddiriedolwyr, fod yn rheoli neu’n goruchwylio rhywun sy’n gwneud hynny. Mae Clybiau Gofal Plant All-Ysgol yn bodloni’r diffiniad o weithgaredd a reoleiddir ac felly dylai ymddiriedolwyr wneud cais am wiriad DBS Manwl.
Er mwyn cael ei wirio yn erbyn y Rhestr Gwahardd Plant yn ogystal, rhaid i unrhyw ymddiriedolwr/aelod o’r pwyllgor fod yn berson/unigolyn cyfrifol sy’n llinell-reoli y sawl sy’n gyfrifol am redeg y ddarpariaeth.
Wrth gwblhau cais am Wiriad Datgelu a Gwahardd gyfer ymddiriedolwr / aelod pwyllgor yn y lle cyntaf dylai hwn fod yn wiriad DBS Manwl gan fod y sector Gofal Plant All-Ysgol yn ‘ddarparwr gweithgaredd rheoledig’. Mae’n bosibl y bydd y cais yn gofyn am rôl swydd i allu cyrchu’r lefel uwch; gellid defnyddio ‘Ymddiriedolwr / Rheolwr Gofal Plant’, byddai hyn hefyd yn wiriad yn erbyn y Rhestr Gwahardd Plant.
Os oes angen i chi ofyn am ragor o gymorth gan eich darparwr GDG gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod iddynt eich bod yn ‘ddarparwr gweithgareddau rheoledig’.