20.03.2026 |
Diweddariad ar yr Ymgynghoriad: Y Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 a’r Cynllun Cymeradwyo ar gyfer Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau
Hoffai Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs dweud diolch i bawb yn y sector a ymatebodd i’n alwad i weithredu ar gyfer ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 a’r Cynllun Cymeradwyo ar gyfer Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o ymatebion. Mae yna grynodeb defnyddiol ar dudalennau 66 a 67.
Wrth i waith parhau i goethi’r Cynllun Gwirfoddol Cymeradwy, rydym yn croesawu eich safbwyntiau ac adborth o hyd. Cysylltwch ag info@clybiauplantcymru.org