Diwrnod Shwmae Su’mae

Mae diwrnod Shwmae Su’mae yn cael ei ddathlu’n flynyddol ar y 15fed o Hydref ac yn cael ei ddathlu ledled Cymru a thu hwnt. Bwriad y diwrnod yw hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae neu shwdi a dangos bod y Gymraeg yn perthyn i ni gyd – siaradwyr rhugl, dysgwyr neu’r rhai sydd dipyn bach yn swil ynghylch eu Cymraeg.

Sut i gymryd rhan?

Cynhaliwch eich digwyddiad eich hun yn eich lleoliad trwy gynnal bore/prynhawn coffi Cymraeg gyda phlant a rhieni i ymarfer rhai ymadroddion Cymraeg.

Trefnwch ddisgo Cymraeg yn cynnwys popeth Cymraeg o gerddoriaeth, gemau parti ac addurniadau.

Gwnewch fideo Shwmae Su’mae gyda’r holl staff, plant a rhieni yn cymryd eu tro i ddweud Shwmae Su’mae neu unrhyw beth Cymraeg.

Cynhaliwch gystadleuaeth yn eich lleoliad lle mae’r plant yn creu eu poster Shwmae Su’mae eu hunain.

Ewch i’r wefan