Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Sul y Pasg 5ed o Ebrill 2026 Mae’r

Pasg yn ŵyl Gristnogol bwysig – dyma pryd mae Cristnogion ledled y byd yn dathlu atgyfodiad Iesu Grist. Yn ôl y Beibl, bu farw Crist ar groes ar ddydd Gwener y Groglith, cafodd ei gladdu am dri diwrnod ac wedyn cafodd ei atgyfodi ar Sul y Pasg.

Rydyn ni’n dathlu’r Pasg gydag wyau siocled a helfeydd wyau traddodiadol ond oeddech chi’n gwybod… Mae wyau yn cael eu defnyddio fel symbol o fywyd newydd?

Pasg Hapus i bawb!