24.07.2026 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Diwrnod Chwarae
5ed Awst 2026
Dim llawer o amser i fynd!
Sut allwch chi gyflwyno Diwrnod Chwarae gwych yn 2026?
Mae Rhannau Rhydd yn adnodd gwych ar gyfer unrhyw ddiwrnod gan eu bod yn gost isel, yn ddi-gost ac ar gael mewn unrhyw amgylchedd sydd gennych fel gofod chwarae.
P’un a ydych yn agos at draeth, coedwig, cae, neu fod gennych fannau dan do yn eich cymuned, gall plant chwarae yn unrhyw le pan fydd ganddynt y cyfle. Mae darparu amser, lle ac eirioli dros hawl pob plentyn i gael mynediad at chwarae yn hanfodol.
Bydd ein tîm allan ledled Cymru yn cymryd rhan mewn rhai digwyddiadau gwych i godi ymwybyddiaeth o’r diwrnod pwysig hwn. Rydym am sicrhau ein bod yn eirioli dros hawl pob plentyn i chwarae.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn anfon eich lluniau atom gan ddefnyddio: #dangoseichchwarae #diwrnodchwarae2026 #chwaraeymaynatirma