Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Cynhelir Diwrnod y Sanau Anghydnaws (Odd Socks Day) 2026 ddydd Llun, 16 Tachwedd.  

Mae’n gyfle i annog pobl i fynegi eu hunain, dathlu eu hunigrywiaeth, a’r hyn sy’n gwneud pob un ohonom yn unigryw. Cynhelir ar ddechrau Wythnos Gwrth-fwlio bob blwyddyn, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth am fwlio. 

https://cdn.shopify.com/s/files/1/0596/7501/7368/files/odd-socks-day-2026-hero.jpg?v=1778026518

WELSH ABW25 OSD25 School Pack Wales

 

Diwrnod Plant y Byd yw Diwrnod Gweithredu Byd-eang UNICEF dros blant – ac ar gyfer plant – sy’n nodi mabwysiadu Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ar 20 Tachwedd.  

Mae’n gyfle gwych i annog plant i rannu eu syniadau, trafod eu hawliau, ac archwilio sut y gallant wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau. 

Children’s version of the Convention on the Rights of the Child | UNICEF

Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd – 15fed i’r 21ain o Dachwedd. Mae Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yn codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd ac yn annog teithiau mwy diogel i bawb. Ystyriwch gynnwys gweithgareddau sy’n ymwneud â chroesi ffyrdd yn ddiogel, defnyddio gwregysau diogelwch, gwisgo helmedau wrth feicio, a sicrhau eich bod yn weladwy yn ystod y boreau a’r nosweithiau tywyllach.

Sign up for Road Safety Week 2026 | Brake