27.11.2026 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Dydd Mawrth Rhoi – 1 Rhagfyr 2026
Mae Dydd Mawrth Rhoi yn fudiad byd-eang sy’n dathlu caredigrwydd a phwysigrwydd rhoi rhywbeth yn ôl i’n cymunedau. Mae’n gyfle gwych i annog plant i archwilio gwahanol ffyrdd o ddangos caredigrwydd a helpu eraill. Gallai hyn gynnwys gweithred fach o garedigrwydd, rhannu sgiliau neu gefnogi eu cymuned.
Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau – 3 Rhagfyr 2026
Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau yn codi ymwybyddiaeth o hawliau pobl ag anableddau, cydraddoldeb a chynhwysiant. Mae’n gyfle i Weithwyr Chwarae fyfyrio ar eu lleoliad a sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfleoedd cyfartal i chwarae a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.
Hanukkah – 4–12 Rhagfyr
Mae Hanukkah, a elwir hefyd yn ŵyl oleuadau Iddewig, yn ddathliad wyth diwrnod o ddewrder, ffydd a gobaith. Mae’n dathlu’r wyrth pan barhaodd ychydig bach o olew am wyth diwrnod.
Mae teuluoedd Iddewig yn dathlu drwy oleuo canhwyllau bob nos, gweddïo a mwynhau bwydydd traddodiadol.
Mae’n ffordd hyfryd i blant archwilio diwylliant a thraddodiadau Iddewig wrth hyrwyddo cynhwysiant.