Diwrnodau Ymwybyddiaeth

😊 Diwrnod Gweplun y Byd – Goffennaf 17eg 2024 😊

Mae’r delweddau eiconig bach yma, a elwir yn Wepluniau neu emojis, yn fwy poblogaidd ar y rhyngrwyd heddiw nag erioed o’r blaen. Felly, yn naturiol, mae ganddynt eu diwrnod arbennig eu hunain.

 Sut i Gymryd Rhan 

Dathlwch y Diwrnod Emoji Byd-eang yn eich lleoliadau yr wythnos hon drwy herio’r plant i:

  • Cynhaliwch sgwrs yn unig drwy emojis: Heriwch wybodaeth y plant am emojis drwy gynnal sgwrs drwy emojis yn unig. Gallech ddefnyddio ipad neu argraffu amryw o wahanol emojis. Pwy fase’n meddwl y gallwch gynnal sgwrs gyfan heb eiriau?
  • Creu eu emojis eu hunain: Amser cystadleuaeth! Heriwch y plant i greu eu ejmoji unigryw eu hunain.
  • Crëwch grys-t emoji: Gofynnwch i’r rhieni os gallai’r plant ddod â hen grys-t i’r lleoliad fel y gallent greu eu crys-t emoji eu hunain.