Ydych chi’n gwybod os oes angen i chi gofrestru fel Darparwr Gofal Plant yng Nghymru?

Fel rhan o’r adolygiad o Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu canllawiau i’ch helpu i ddeall a oes angen i’ch darpariaeth gofrestru os ydych wedi’ch eithrio.

Adolygwch y canllawiau yma: Cofrestru fel darparwr gofal plant: eithriadau | LLYW.CYMRU

 

Neu, gallwch gysylltu â’n tîm o Swyddogion Datblygu Busnes Gofal Plant am gymorth i gofrestru fel Clwb Gofal Plant All-Ysgol.