Dymunwn ddathlu gyda chi!

Hwre!

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn dathlu 25 mlynedd o gefnogi’r Sector Gofal Plant All-Ysgol eleni, ac rydym am glywed gennych chi a’r hyn rydych chi yn ei ddathlu.

Cysylltwch â ni a rhowch wybod i ni:

  • A ydych wedi dathlu carreg filltir fawr eleni, neu a fyddwch yn gwneud hynny?
  • Efallai pen-blwydd mawr i’r clwb, neu ben-blwydd gwaith arbennig i un o’ch staff neu aelodau’r pwyllgor?
  • Sut rydych wedi dathlu, neu sut y byddwch yn dathlu?
  • A ydych yn dathlu arolygiad llwyddiannus diweddar gan AGC?
  • Unrhyw beth rydych chi fel clwb wedi’i gyflawni eleni sy’n haeddu cael ei ddathlu am eich gwaith caled!

Os ydych eisoes wedi dathlu rhywbeth, byddem wrth ein bodd yn cael rhai lluniau; neu os oes gennych rywbeth yn y dyddiadur, byddem wrth ein bodd yn dathlu gyda chi.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych!