
28.03.2025 |
Gyflogwyr – oes gennych chi’r gwiriad GDG cywir?
Fel cyflogwyr y rhai sy’n gweithio ym maes gofal plant, mae’n bwysig eich bod yn gwneud yn sicr bod gennych y lefel gywir o wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
Fel cyflogwyr, p’un a ydych yn berchennog, neu’n aelod o’r pwyllgor/ymddiriedolwr, os mai chi hefyd yw’r person cofrestredig/unigolyn cyfrifol, chi sy’n gyfrifol am oruchwylio aelodau o’ch staff, ac felly mae’n rhaid i chi fod â gwiriad GDG manylach ac yn cael eich gwirio yn erbyn rhestr y rhai a waharddwyd.
Mae adran o ffurflen y GDG sy’n gwneud yn sicr bod hyn yn digwydd.
Yn adran Y o’r cais, rhaid ichi sicrhau eich bod yn marcio ‘Ydw’ yn erbyn ‘gweithio gyda phlant mewn gweithgaredd rheoledig’. Trwy wneud hyn byddwch yn derbyn y lefel gywir o wiriad y GDG yn unol â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.