Annog Chwarae Awyr-Agored

Chwarae yw un o rannau pwysicaf bywydau plant. Mae’n hanfodol i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Fel rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) mae gan blant hawl i chwarae, ac fel Gweithwyr Chwarae rydym yn gweithredu fel eiriolwr chwarae. Trwy chwarae yn yr awyr agored, mae plant yn cael y cyfle i ddatblygu gwytnwch, profi eu galluoedd corfforol, mynegi eu hunain a meithrin eu hunanhyder, mae hyn i gyd yn cyfrannu at eu lles corfforol ac emosiynol.

Mae chwarae yn yr awyr agored yn annog plant i allu;

  • Defnyddio eu creadigrwydd a darganfod beth maen nhw’n ei hoffi mewn gwirionedd
  • Darganfod a gweithredu ar eu diddordebau, eu syniadau a’u hoffterau eu hunain
  • Cymryd risgiau corfforol yn raddol, gan adeiladu ar yr hyn y gallant ei wneud
  • Cydweithio â phlant eraill o wahanol oedrannau a dysgu sut i rannu, trafod a datrys achosion o wrthdaro.