Arweiniad arbenigol am ddim ar: gynllunio busnes, ehangu, cofrestru, sicrwydd ansawdd a phob agwedd arall ar ddarparu Clwb Gofal Plant Allysgol gan dîm o Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant.
Cefnogaeth wedi ei darparu gan eich swyddfa ranbarthol ar faterion gofal plant a busnes.
Efwletin wythnosol am ddim
Newyddlen chwarterol, sy’n cynnwys syniadau am weithgraeddau a chodi arian, am ddim
Cyhoeddiadau, yn cynnwys Camu Allan (sy’n llawn o bolisïau a gweithdrefnau enghreifftiol i’ch helpu i gyfateb â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol)
Cyfle i fod yn rhan o’n Bwrdd Ymddiriedolwyr a llunio dyfodol Gofal Plant Allysgol yng Nghymru.
Rheolwch y wybodaeth am eich clwb ar-lein drwy ein porth. Yma gallwch ddiweddaru eich manylion ar ein Dod o Hyd i Glwb, cwblhau Asesiad Gofal Plant Allysgol a hysbysu’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant lleol o unrhyw newidiadau.
Mae’r ffurflen hon ar gyfer Clybiau Gofal Plant All-Ysgol unigol YN UNIG.
Mae Clybiau Gofal Plant All-Ysgol yn cynnwys Clybiau Brecwast (sy’n rhedeg cyn dechrau’r diwrnod ysgol), Clybiau Ôl-Ysgol (sy’n rhedeg ar ddiwedd y diwrnod ysgol – o 15.00 ymlaen fel arfer), a Chlybiau Gwyliau sy’n rhedeg yn ystod gwyliau’r ysgol.
Manylion y Clwb
Nodwch isod gyfeiriad lleoliad eich Clwb Gofal Plant All-Ysgol. Dyma’r cyfeiriad a ddefnyddir os ydych wedi cytuno i gael eich ychwanegu i’n cyfleuster chwiliwr clwb. Dyma, hefyd, y manylion a ddefnyddir os bydd rhiant neu berson â diddordeb yn ffonio un o’n swyddfeydd i ofyn am fanylion clybiau yn eu hardal nhw. Cwbhlewch yr HOLL wybodaeth hon YN LLAWN, os gwelwch yn dda.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus. Bydd y flwyddyn aelodaeth yn rhedeg o 01.04.2023 i 31.03.2024. Bydd pob aelodaeth yn dod i ben ar 31.03.2024.
Gweledigaeth Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yw Cymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu. Ein cenhadaeth yw bod yn llais Clybiau Gofal Plant Allysgol yng Nghymru, gan gefnogi hawl plant i chwarae a gofal plant o ansawdd sydd yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn diwallu anghenion plant, eu teuluoedd a’u cymunedau.