10.01.2025 |
Cynllunio Ariannol
Nid yw’n rhy gynnar i gynllunio’n ariannol ar gyfer yr Adroddiadau Diwedd-y-Flwyddyn ym mis Ebrill.
Mae ambell i newid ar y ffordd a allai effeithio’n fawr ar eich busnes ac mae angen i chi gynllunio yn awr.
- Newid i’r Yswiriant Gwladol o Ebrill 1af
- Trothwy enillion cyflogeion parthed YG yn gostwng o £9,100 i £5,000
- Bydd y gyfradd YG yn codi o 13.8% i 15%
- Codiad yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o Ebrill 1af
Cyfradd yr ICC | Codiad (£) | Codiad (%) | |
Cyflog Byw Cenedlaethol (21 oed a throsodd) | £12.21 | £0.77 | 6.7 |
18-20 Mlwydd Oed | £10.00 | £1.40 | 16.3 |
16-17 Mlwydd Oed | £7.55 | £1.15 | 18.0 |
Cyfradd Prentisiaid | £7.55 | £1.15 | 18.0 |
Tâl Cydbwyso cost Llety | £10.66 | £0.67 | 6.7 |
O ragolygon llif arian i ddod o hyd i ariannu, rydym am eich cefnogi i sicrhau eich bod yn diogelu eich busnes gofal plant, drwy fod yn rhagweithiol gyda’ch cynllunio ariannol.
Peidiwch ag oedi, siaradwch â’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant heddiw! Contact@clybiauplantcymru.org