Aelodaeth sydd wedi Ariannu’n llawn 2025-26

Trwy gefnogaeth gan Sefydliad Moondance, rydym yn falch o allu cynnig aelodaeth wedi’i hariannu’n llawn i bob Clwb Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru tan Fawrth 2026.

Enillwyd yr hawl i gael diweddariadau wythnosol yn rhad ac am ddim, gan gynnwys adnoddau a gweithgareddau, bod y cyntaf i glywed am gymwysterau Gwaith Chwarae a chyfleodd datblygiad proffesiynol parhau a ariennir a chewch fynediad at dîm proffesiynol a gwybodus ar gyfer unrhyw ymholiadau a chymorth.

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Cam 1: Mewngofnodwch i’ch porth gan ddefnyddio’ch manylion adnabod presennol; os ydych yn ansicr o’ch manylion mewngofnodi cysylltwch yma.

Cam 2: Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i’r porth, ewch i’ch tudalen hafan ac ewch ati i wirio/diweddaru unrhyw fanylion. Gwnewch yn siŵr bod eich cyfeiriad yn gywir ac yn gyfan, er mwyn cael eich rhifyn arbennig nesaf sydd wedi’i argraffu, Y Bont: Cynefin, i’w ddosbarthu yng nghanol mis Mawrth.

Byddwch yn derbyn eich tystysgrif newydd ar 01/04/2025.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch adnewyddu eich aelodaeth. Rydym yma o hyd i’ch helpu.