13.04.2023 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Nisa’n Gwneud Gwahaniaeth yn Lleol
Mae’r elusen yma’n helpu siopau Nisa i godi arian y gellir yna ei roi i elusennau lleol ac achosion da. Gwneir hyn drwy werthu cynhyrchion dewisol yn y siop, yn cynnwys holl eitemau brand y Co-op a’r rhai label Nisa ei hun, sef Heritage.
Bob tro y prynir eitem sy’n rhan o’r cynllun, ychwnegir cyfran o’r pris i gronfa MADL y siop, ac yna rhodir y cynnwys i achosion da yn ardal leol y siop honno.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach.
Dŵr Cymru / Welsh Water
Mae’r Gronfa Gymunedol yn gyfle i gymunedau roi hwb i’w hymrechion i godi arian i achosion da yn eu hardal leol. Os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae gwaith o’r fath yn digwydd – ac yn codi arian i brosiectau er lles y gymuned – gallech gael eich ariannu am swm hyd at £1,000 gan Ddŵr Cymru.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach.
Cronfa Gymunedol Hafren Dyfrdwy
Lansiwyd y Gronfa Gymunedol yn 2021, er mwyn cefnogi prosiectau newydd elusennau lleol a grwpiau cymunedol yn ardal Hafren Dyfrdwy.
Gall ymgeiswyr wneud cais am £2,000-£10,000 ar gyfer prosiectau sy’n unigryw, rhai y mae gwir angen cymunedol amdanynt, ac a fydd yn amlwg yn cael effaith wirioneddol ar lesiant cymuned.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach.