07.07.2023 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Rownd Ariannu Genedlaethol Hydref 2023 Fore
Cyfle newydd, cyffrous am ariannu i elusennau a mentrau cymdeithasol bychain ar draws y DU – Rownd Ariannu Genedlaethol Hydref 2023 Fore. Mae croeso i bob elusen gofrestredig, Sefydliadau Corfforedig Elusennol, Cwmnïau Budd Cymunedol a Chymdeithasau Budd Cymunedol yn y DU sydd ag incwm blynyddol o lai na £500,000, i wneud cais. Gofynnir ichi hefyd ateb ein cwis cymhwysedd yma.
Sefydliad Morrisons
Mae grantiau ar gael ar gyfer elusennau cofrestredig i fynd ynglŷn â phrosiectau newydd sy’n gwella’n uniongyrchol fywydau pobl leol neu gymunedau, yn enwedig y rhai sy’n hyglwyf neu o dan anfantais, yn Lloegr, yr Alban neu Gymru. Swm: Hyd at £25k
Sefydliad Hays Travel
Mae grantiau ar gael ar gyfer elusennau cofrestredig ac achosion lleol sy’n helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial mewn lleoedd sydd â changau o Hays Travel.
Arian i Bawb Cymru (Yn codi i £20K!)
Mae gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol dair blaenoriaeth ariannu, a rhaid i chi fod yn gallu dweud wrthym yn eich cais sut y bydd eich prosiect neu weithgaredd yn:
dwyn pobl at ei gilydd ac adeiladu perthnasoedd cryf mewn, ac ar draws, cymunedau.
Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm – i gau ar 15/09/2023
Mae grantiau ar gael i sefydliadau cymunedol yng Nghymru gefnogi prosiectau a gweithgareddau ym meysydd chwaraeon, y celfyddydau, y gymuned a’r amgylchedd. Swm: £6,600.
Sefydliad Elusennol Trusthouse
Mae grantiau ar gael ar gyfer elusennau bychain a chanolig, a sefydliadau nid-er-elw yn y DU, sydd â hanes o weithio’n llwyddiannus i fynd i’r afael â phroblemau mewn cymunedau trefol eithriadol o ddifreintiedig neu ardaloedd gwledig difreintiedig.