15.09.2023 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Ymddiriedolaeth Oakdale
Mae ymddiriedolaeth Oakdale yn sefydliad bychain sy’n cael ei redeg gan deulu, ac sy’n dosrannu grantiau hyd at werth cyfansymiol o £300,000 y flwyddyn. Mae’r grantiau’n amrywio o £250 hyd at £2000, a’r grant cyfartalog tua £1000.
Mae maes diddordeb yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys y canlynol:
- Prosiectau cymdeithasol a chymunedol wedi’u lleoli yng Nghymru
- Grwpiau Cefnogi Meddygol sy’n gweithredu yng Nghymru; prosiectau ymchwil meddygol yn y DU
- Prosiectau gwarchodaeth amgylcheddol sydd wedi eu lleoli yng Nghymru
- Rhoddir rhywfaint o gefnogaeth i’r Celfyddydau lle bydd cysylltiad Cymreig.
- Elusennau yn y DU sy’n gweithio yn y byd sy’n datblygu. D.S. Nid oes modd inni gefnogi sefydliadau elusennol sydd wedi eu cofrestru y tu allan i’r DU.
- Diwygio’r drefn Benydiol
Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi:
- Unigolion
- Cynlluniau Gwyliau
- Alldeithiau
- Chwaraeon
- Elusennau tramor sydd heb gofrestru yn y DU
Ystyrir ceisiadau am ariannu prosiect ac ariannu craidd.
https://www.oakdaletrust.org.uk/
Cynllun Awyr Fawr
Fel rhan o’n gwaith i gefnogi plant a phobl ifanc mewn ardaloedd gwledig mae BBC Plant mewn Angen yn falch iawn o gyflwyno ein cynllun Awyr Fawr. Bydd y gronfa hon yn dyfarnu grantiau hyd at £5,000 i ariannu:
- Plant a phobl ifanc 8-13 oed
- Plant a phobl ifanc o ardaloedd o arwahanrwydd
- Gweithio i gefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl
Byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth ar Zoom ar 12/10/2023 am 11.00yb. Mae’r sesiwn hon ar gyfer cyrff cynghori: byddwn yn cynnal sesiwn ar gyfer ymgeiswyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
I gael eich ychwanegu at y rhestr wahoddiadau, ebost: grants@cvsc.org.uk