04.10.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Tesco stronger starts
Mae Tesco Stronger Starts yn cefnogi miloedd o brosiectau cymunedol lleol ac achosion da ledled y DU.
Mae’r cynllun yn agored i bob ysgol, elusen gofrestredig a sefydliad di-elw, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau sy’n darparu bwyd a chymorth i bobl ifanc.
Gallai enghreifftiau o geisiadau cymwys sy’n canolbwyntio ar sicrwydd bwyd, plant a phobl ifanc fod yn:
· Ysgol sy’n darparu bwyd i ddisgyblion ar gyfer clybiau brecwast neu fyrbrydau drwy gydol y dydd.
· Ysgol sydd eisiau prynu offer ar gyfer gweithgareddau awyr agored neu dan do.
· Ysgol sydd eisiau datblygu ardal tyfu bwyd.
· Ysgol sy’n cefnogi clwb ar ôl ysgol.
· Sefydliad gwirfoddol sy’n gweithio gyda theuluoedd i redeg banc bwyd.
· Sefydliad sy’n mynd i’r afael â newyn gwyliau.
· Prosiect bwyta’n iach sy’n cefnogi teuluoedd i goginio prydau iach ar gyllideb.
· Grŵp Brownis neu Sgowtiaid angen cyllid ar gyfer offer neu weithgareddau chwarae newydd.
Grantiau Gofal Plant a Chwarae
Mae tîm y Blynyddoedd Cynnar, Bro Morgannwg wedi sicrhau cyllid i gefnogi cynaliadwyedd lleoliadau gofal plant ac i sefydlu lleoedd gofal plant newydd.
Er mwyn creu lleoedd gofal plant newydd bydd gofyn ichi allu dangos yr angen yn yr ardal – a oes gennych restrau aros, galw gan rieni, canfyddiadau Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant.
* PWYSIG – Mae’n ofynnol gan Fro Morgannwg fod unrhyw leoliad sy’n gwneud cais am grant â’u manylion yn gyfamserol ac wedi eu cyhoeddi ar DEWIS Cymru. Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd helpu gyda hyn 01446 704704.