11.10.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs: Grant Cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (£1000)
Mae ariannu ar gyfer y cynllun grantiau uchod yn awr ar gael gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs drwy gyllid Lywodraeth Cymru o Ebrill 2024 hyd at Fawrth 2025.
Bydd y grant yma’n cefnogi lleoliadau Cymraeg / dwyieithog gyda’r costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno cais am gofrestru ag AGC ac ennill cofrestriad; bydd hefyd yn cefnogi ehangu darpariaeth bresennol cylchoedd i gynnig gofal plant all-ysgol i blant hyd at 12 mlwydd oed.
Gofynnwn ichi drafod eich cais â’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant os gwelwch yn dda, a rhaid iddo ef/hi hefyd lofnodi’ch cais.
Yn galw holl GLYBIAU PEN-Y-BONT!
Gallwn gadarnhau bod y ffurflenni cais ar-lein ar gyfer y Grant Datblygu Busnes a’r Grant Dichonoldeb Busnes yn fyw ar wefan CBSP ac yn agored i ymgeiswyr wneud cais. Amgaeir Ffurflen Atgyfeirio Cleient ar gyfer Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU. Byddem yn ddiolchgar pe gallech ei chwblhau a’i phostio yn ôl atom. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn rhan o’r cymorth Codi’r Gwastad Gweler y ddolen ganlynol os gwelwch yn dda:
https://www.bridgend.gov.uk/cy/busnes/cyllid-a-grantiau/grantiau-cefnogi-busnesau/
Dylai ymgeiswyr gyfeirio at y canllawiau cynllun grant penodol cyn gwneud cais:
Cyn i chi ddechrau’r broses ar-lein, sicrhewch eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd gofynnol fel a ganlyn:
- Mae unig fasnachwyr, Partneriaethau, Cwmnïau Cyfyngedig, Cwmnïau Cydweithredol a Phartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig, Menter Gymdeithasol Gofrestredig neu Elusen yn gymwys i wneud cais.
- Mae ganddo drosiant gweithredol dros y 3 blynedd diwethaf uwchlaw’r trothwy TAW (£90,000)
- Busnes sefydledig sydd wedi bod yn masnachu am fwy na 3 blynedd
- Cyfeiriad busnes Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Mentrau Bychain a Chanolig (SMEs) (llai na 250 o weithwyr a throsiant blynyddol o dan €50 miliwn)
Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys, cysylltwch â businessfunds@bridgend.gov.uk a fydd yn gallu’ch cynghori.