25.10.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Grantiau Gofal Plant a Chwarae Bro Morgannwg
Mae tîm y Blynyddoedd Cynnar Bro Morgannwg wedi sicrhau cyllid i gefnogi cynaliadwyedd lleoliadau gofal plant ac i sefydlu lleoedd gofal-plant newydd.
Bydd pob darparwr gofal plant sydd wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn gymwys i wneud cais am grant cyfalaf. Ond rhoddir mwy o ystyriaeth i geisiadau gan y sawl sy’n cynnig un o’r cynlluniau canlynol. Mae’r rhain yn cynnwys y Cynnig Gofal Plant ac ehangu’r ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar i blant 2 flwydd oed. Bydd y lleoliadau hynny sydd eisoes yn gweithio gydag AGC i gofrestru lleoliad gofal plant, ond sydd angen amnewid neu atgyweirio celfi sefydlog, yn gymwys i ymgeisio.
Mynnwch wybod mwy yma.