Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Tesco Stronger Starts

Mae’r uchod yn cefnogi miloedd o brosiectau cymunedol. Yn agored i ysgolion, elusennau cofrestredig a sefydliadau nid-er-elw sy’n canolbwyntio ar fwyd a phlant.

Gall sefydliad wneud cais am grant o hyd at £1,500.  Mae sefydliad newydd yn cael ei ddewis bob 3 mis ac yn cael ei ychwanegu at y pleidleisiau cwsmeriaid tocyn glas mewn siopau Tesco.

www.tescostrongerstarts.org.uk

 

Cyfle Ariannu i Sefydliadau Cymunedol ym Merthyr Tudful

Mae’r gronfa cefn gwlad frenhinol, y Royal Countryside Fund, yn lansio rhaglen ariannu newydd ar 10 Ionawr 2025 i gefnogi eich prosiectau cymunedol.   Gallwch wneud cais am hyd at £25,000 ar gyfer prosiectau a arweinir gan y gymuned sydd â’r potensial i: –

roi manteision ariannol i’r ardal leol

adeiladu ymdeimlad cryfach o gymuned a chysylltiadau

cynyddu cynaliadwyedd amgylcheddol.

Dysgwch fwy am sut i wneud cais ac am gymhwystra; gallwch fynychu gweminar ar Ddydd Mawrth, Rhagfyr 17fed am 18:00.

Supporting Rural Communities – The Royal Countryside Fund