Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Nisa’n Gwneud Gwahaniaeth yn Lleol

Mae’r elusen hon yn helpu’r siopau gyflawni hyn drwy roi cyfle iddynt enwebu elusennau neu achosion da sy’n lleol iddyn nhw i dderbyn rhodd ariannol benodol oddi wrth Nisa. Gall y rhoddion fod yn lleol i dimau chwaraeon lleol, hosbisau neu un o’r nifer fawr o elusennau sydd ar waith yn y DU.

 

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.


Grantiau ar gyfer Glybiau Chwaraeon a effeithir arnynt gan ddifrod y storm

Gall clybiau chwaraeon Cymru sydd wedi’u heffeithio gan ddifrod diweddar y stormydd wneud cais am grantiau hyd at £5,000, gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru. Mae’r cais yn agor ar 10 Rhagfyr ac yn cau am 4pm ar ddydd Mawrth 17 Rhagfyr.

Grantiau ar gyfer clybiau chwaraeon sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod storm | Chwaraeon Cymru

 


Cyllid ar gyfer Seibiannau i Blant Anabl a’u Teuluoedd (DU) – Gwnewch gais erbyn 31 Rhagfyr

Gall teuluoedd a grwpiau o blant, ysgolion, sefydliadau ac elusennau cofrestredig eraill wneud cais am gymorth ariannol gan Ymddiriedolaeth Adamson ar gyfer cost gwyliau neu seibiant i blant anabl â namau corfforol, meddyliol neu emosiynol. I fod yn gymwys, rhaid i’r plentyn fod yn byw yn y DU, rhwng 3 a 17 oed, ac mae’r Ymddiriedolaeth angen tystiolaeth o’i anabledd neu salwch gan weithiwr proffesiynol meddygol neu weithiwr o wasanaethau cymdeithasol.
Fel arfer, dim ond rhan o’r costau gwyliau mae grantiau gan yr Ymddiriedolaeth yn ei thalu . Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw 31ain Rhagfyr 2024 ar gyfer y cyfarfod ym mis Chwefror.