Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru.

Lansiwyd Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn 2017 Ers lansio’r gronfa, maent wedi cyfrannu dros £500,000 i gefnogi cannoedd o fentrau cymunedol lleol.

Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grant hyd at £5,000 tuag at eu prosiect.

Sut i wneud cais?

Gweler dyddiadau’r paneli isod, pryd i gyflwyno’ch cais a phryd y byddant yn rhoi gwybod i chi ganlyniad eich cais.

1 Ionawr 2025 – 28 Chwefror 2025

1 Mai 2025 – 30 Mehefin 2025

1 Medi 2025 – 31 Hydref 2025

Bydd y panel cymunedol yn cyfarfod i benderfynu ar brosiectau llwyddiannus o fewn 2 wythnos ar ôl y dyddiad cau a bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am y canlyniad erbyn diwedd y mis, unwaith y bydd yr holl ddogfennaeth berthnasol wedi’i derbyn ac mewn trefn.

Mae enghreifftiau o brosiectau a allai dderbyn cyllid yn cynnwys:

Gwelliannau i’r amgylchedd neu fentrau cymunedol lleol sy’n hybu amcanion iechyd, lles ac amgylcheddol.

Gweithgareddau a gyflawnir gan grwpiau cymunedol cofrestredig – yn benodol ag amcanion iechyd, lles, costau byw ac amgylcheddol.

Gwella a chefnogi gweithgarwch addysg lleol er enghraifft manteision effeithlonrwydd dŵr, a’r manteision amgylcheddol ac arloesol.

Rhoddir blaenoriaeth i’r prosiectau hynny lle mae Dŵr Cymru yn gweithio, neu wedi bod yn gweithio.

Enghreifftiau o elusennau sy’n gymwys i wneud cais:

Ymddiriedolaethau Elusennol – Elusen Gofrestredig

Cymdeithasau tai, clybiau chwaraeon, cwmnïau cydweithredol

Cymdeithasau Cyfeillgar – clybiau gweithwyr, cymdeithasau llesiannol Cymdeithas Anghorfforedig – Grwpiau hunangymorth, sefydliadau bach

Elusennau Eithriedig – Sgowtiaid Bechgyn/ Geidiaid/ y Beavers/ Brownis

Darparwyr gwasanaeth yn y Sector Gwirfoddol – Canolfannau Gwirfoddoli

Ysgolion

DS – Nid yw hon yn rhestr gyflawn

Yr hyn na allant ei ariannu:

Ariannu staffio – oni bai bod y cyllid ar gyfer hyfforddi staff presennol i wella ansawdd yr hyn y gall y grŵp ei gyflawni.

Cyllid aml-flynyddol

Elusennau heb eu cofrestru

Arianwyr neu roddwyr grantiau eraill

Cyllid diffyg

Gweithgareddau plaid wleidyddol

Grwpiau crefyddol penodol

Digwyddiadau, cynadleddau nawdd

DS – Nid yw hon yn rhestr gyflawn

Sut mae’n gweithio

Bydd partïon â diddordeb yn llenwi ffurflen gais ar-lein sydd ar gael ar wefan Dŵr Cymru.

https://contact.dwrcymru.com/cy/online-services/community-fund-application-form

Darllen mwy