
14.03.2025 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Ffrwd Ariannu Costau Craidd BBC Plant Mewn Angen
Mae Ffrwd Ariannu Costau Craidd BBC Plant mewn Angen ar gyfer elusennau a sefydliadau dielw.
Beth yw Costau Craidd?
Mae Costau Craidd yn cefnogi gwariant sefydliadol a gweinyddol hanfodol.
Gall cyllid Costau Craidd BBC Plant Mewn Angen gael ei wario ar weithrediadau canolog eich sefydliad o ddydd i ddydd. Gallai’r rhain gynnwys, er enghraifft:
- Rheolaeth a gweinyddiad
- AD a chyflogres
- Costau swyddfa cyffredinol
- Cyfrifeg ac archwilio
- Cyfathrebu ac allgymorth
- Monitro, gwerthuso a dysgu
- Costau llywodraethu, rheoleiddio a chydymffurfio
Pwy all wneud cais?
- Sefydliadau dielw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed neu iau
- Sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn y DU, Ynys Manaw, neu Ynysoedd y Sianel
- Sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n byw yn y DU, Ynys Manaw, neu Ynysoedd y Sianel
https://www.bbcchildreninneed.co.uk/grants/apply/core-costs/