Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Gweithdai grantiau o’r Sefydliad Cymunedol Cymru

Mae gweithdai grantiau yn eich arwain drwy’r hyn sydd ei angen arnoch, er mwyn gwneud cais am grantiau gan y Sefydliad Cymunedol Cymru a’r hyn sy’n gwneud cais da.
Bydd y gweminarau hyn yn edrych ar yr elfennau canlynol o be sy’n gwneud cais grant da:

  • Dogfennau ategol y byddwch angen
  • Cymorth gyda pholisïau y dylai fod gan eich sefydliad yn eu lle
  • Meini prawf cymhwyster
  • Beth sy’n gwneud cais grant da
  • Pa gefnogaeth sydd ar gael

Mae’r sesiynau rhad ac am ddim canlynol ar gael i’w harchebu nawr:

16eg Ebrill – 11.00 -12.00 2025

14eg Mai – 11.00 -12.00 2025

16eg Gorffennaf – 11.00 – 12.00 2025

Cliciwch yma i ddarllen mwy ac archebu lle ar sesiwn.