29.09.2022 |
Cyfleoedd Ariannu 03/10/2022
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
__________________________
Rhaglen Clwb Brecwast Kellogg’s
Mae Kellogg’s wedi ymuno â Forever Manchester i ddyfarnu grantiau o £1,000 i Glybiau Brecwast ysgolion, i’w helpu i ddarparu brecwast i’r rhai y mae ei angen fwyaf arnynt.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
____________________________________
Cronfa Gymunedol Uwch Siryf Gwent
Derbynnir ceisiadau i’r gronfa hon gan grwpiau cymunedol ac elusennau sydd wedi eu lleoli ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen o Ddydd Mercher Medi’r 28ain 2022.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
__________________________
Ymddiriedolaeth Ford Britain Trust
Mae grantiau o £250- £3000 ar gael.
Dyddiad cau Hydref 31ain 2022.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.