19.04.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Ariannu Cynghorau Cymuned
Os ydych yn grŵp gwirfoddol neu gymunedol neu sefydliad elusennol mae bob amser yn werth ffurfio cysylltiadau â’r cyngor cymuned lleol; nid yn unig y mae hon yn ffordd wych o wneud cysylltiadau yn eich cymuned leol ond efallai y bydd cyfle i gael mynediad at Grantiau Cynghorau Cymuned i gefnogi rhedeg a chynaliadwyedd y ddarpariaeth.
Mae enghraifft o’r math hwn o grant wedi’i ychwanegu fel dolen gyswllt, ond edrychwch beth sydd ar gael yn eich ardal eich hun, neu os oes angen cymorth arnoch gyda hyn cysylltwch ag un o’n Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant a fydd yn barod iawn i’ch helpu.
Cadwch Gymru’n Daclus
Ewch draw i’r wefan i wneud cais am Leoedd Lleol i Natur i gael pecyn garddio am ddim. Mae pecynnau cychwyn, datblygu a phecynnau perllan ar gael.
Sefydliad Asda
Mae llawer o archfarchnadoedd yn cyflogi hyrwyddwyr cymunedol sy’n gallu cefnogi lleoliadau gyda rhoddion bach o offer neu adnoddau. Mae Sefydliadau Asda hefyd yn cefnogi sefydliadau bach, llawr-gwlad mewn gwahanol ffyrdd trwy wahanol grantiau a mentrau sydd ar y gweill. Ewch draw i’w gwefan i weld a allai eich lleoliad fod yn gymwys i wneud cais am unrhyw ran o’u cyllid neu grantiau.