27.02.2026 |
Grant Llefydd wedi’u Hariannu Moondance
Trwy gymorth gan The Moondance Foundation, mae cyfle wedi codi i gynnig grantiau ar gyfer ariannu llefydd gofal plant mewn Clybiau Gofal Plant All-Ysgol.
Mae arian bellach ar gael o 1af Ebrill hyd at 28ain Awst er mwyn galluogi plant na fyddent fel arfer yn cael mynediad at y darpariaeth a fyddai’n elwa o gyfleoedd chwarae y tu allan i’r diwrnod ysgol, gan gefnogi ymgysylltu cymdeithasol a llesiant meddyliol.
Dylai Clybiau Gofal Plant All-Ysgol sydd wedi’u cofrestru ag AGC ac sy’n aelodau o Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs anfon e-bost os oes ganddynt ddiddordeb mewn cynnig llefydd wedi’u hariannu at: info@clybiauplantcymru.org
Peidiwch ag anghofio adnewyddu eich aelodaeth gyda Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i allu ymgeisio.
Ymunwch a’n Clwb Hwb i ddysgu ragor am y grantiau ar gyfer llefydd sydd wedi’u hariannu a sut i ymgeisio.