Gwaith ymchwil newydd gofal plant sy’n archwilio safbwyntiau a phrofiadau unigolion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dau adroddiad ymchwil sy’n archwilio safbwyntiau a phrofiadau unigolion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.

Profiadau o ofal plant i deuluoedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig: 

Ymchwil ansoddol sy’n archwilio safbwyntiau a phrofiadau teuluoedd Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n defnyddio gwasanaethau gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru.

Profiadau pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o weithio ym maes gofal plant: 

Ymchwil ansoddol sy’n archwilio safbwyntiau a phrofiadau unigolion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru.

Gallwch chi rannu’r rhain gyda’ch rhwydweithiau.

Diolch.